Neidio i gynnwys

Anfonwn archebion ar ddyddiau Llun, Mercher a Gwener. Gweler ein tudalen 'Postio' i gael mwy o fanylion a dyddiadau archebu olaf y Nadolig.

Anfonwn archebion d. Llun, Mercher, Gwener. Gweler ein tudalen 'Postio' i weld dyddiadau archebu olaf y Nadolig.

Addysgwyr: Sut y gallwn ni eich helpu

Yn ystod y 14 mlynedd mae Siop Cwlwm wedi bod yn masnachu, rydym wedi sefydlu adran bwrpasol sy'n darparu gwasanaethau i sefydliadau a grwpiau sy'n gysylltiedig ag addysg, fel ysgolion, colegau, eglwysi, capeli a chylchoedd meithrin. Mae ein hadran bwrpasol yn darparu llawer o fanteision sylweddol i'r grwpiau hyn ac i'r Addysgwyr sy'n gweithio yn y grwpiau hyn, gan gynnwys:

Arbenigedd a phrofiad addysgol

Arferai dwy draean o'n staff fod yn athrawon hyfforddedig neu gynorthwywyr addysgu am lawer o flynyddoedd, mae hyn yn darparu profiad ac arbenigedd ymarferol. Trwy bob lefel addysgol, o'r cyfnod cyn-ysgol i oedolion yn dysgu Cymraeg, gallwn gynnig gwasanaeth cynghori am ddim, i'ch helpu i ddod o hyd i'r llyfrau ac adnoddau cywir i ddiwallu anghenion eich dysgwyr a'ch llyfrgelloedd.  

Mae ein harbenigedd yn cynnwys ELSAs (Cynorthwyydd Cymorth Llythrennedd Emosiynol), a gallwn helpu ysgolion i gefnogi anghenion emosiynol eu disgyblion ag adnoddau a llyfrau Cymraeg addas ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys:

  • Sgiliau Cymdeithasol
  • Profedigaeth
  • Sefyllfaoedd Cymdeithasol
  • Storïau Therapiwtig
  • Rheoli Dicter
  • Hunan-barch
  • Sgiliau datrys problemau bywyd go iawn
  • Cyfeillgarwch.

Dosbarthu am ddim, cyflym ac effeithlon

Byddwn yn cyflenwi eich archebion yn gyflym ac effeithlon.  Os na allwn ddosbarthu ein hunain, byddwn yn defnyddio gwasanaethau cludo effeithlon gan gynnwys y Post Brenhinol, Parcelforce a DPD.  Gan ddibynnu ar faint eich archeb a'ch lleoliad, efallai y gallwn gynnig dosbarthu am bris gostyngedig, neu am ddim, i ysgolion a grwpiau tebyg, cysylltwch â ni cyn archebu i drafod hyn ymhellach.

Gostyngiad addysgol

Yn aml mae archebion gan grwpiau addysgol yn gymwys ar gyfer gostyngiad 10% (yn ogystal â'r dosbarthu am ddim y cyfeiriwyd ato uchod).  Eto, cysylltwch â ni cyn archebu i drafod hyn ymhellach.

Talwch drwy anfoneb

Rydym yn gyfarwydd iawn â phrosesau talu sefyliadau a grwpiau addysgol, ac rydym wedi dod yn gyfarwydd iawn â delio ag adrannau cyllid / cyfrifon cwsmeriaid, fel Awdurdodau Lleol ar gyfer ysgolion. Os byddwch yn cysylltu â ni cyn i chi archebu, gallwn greu anfoneb, a fydd yn daladwy 30 diwrnod ar ôl dosbarthu eich archeb, neu gallwn addasu ein proses i gyd-fynd â'ch gweithdrefnau. Gallwch hefyd dderbyn taliad mewn amrywiaeth o ffyrdd eraill, e.e. arian parod, siec, cerdyn, trosglwyddiad BACS, PayPal, Clearpay.

Digwyddiadau

Rydym wrth ein boddau yn mynychu ffeiriau llyfrau a digwyddiadau eraill sy'n ymwneud â byd addysg. I gefnogi eich cyllidebau, gellir talu comisiwn i'ch sefydliad, ar sail nifer y llyfrau a werthwyd, fel credyd i'w wario yn Siop Cwlwm (yng Nghroesoswallt neu ar-lein).  Gallwn drefnu ymweliadau gan awduron, a digwyddiadau – ffeiriau, ymweliadau, Diwrnod y Llyfr. Neu fel arall gall eich staff, disgyblion, myfyrwyr ymweld â'n siop a helpu ein tîm i ddewis a dethol eu harcheb.

Gwobrau

Os oes angen gwobrau arnoch ar gyfer ysgol, fel diwedd tymor, Eisteddfod Ysgol neu'r Nadolig, cysylltwch â ni oherwydd efallai y byddwn yn gallu helpu.  Mae tocynnau llyfr a chardiau rhodd ar gael, ac mae gennym lawer o lyfrau i blant o dan £5.

Cynllun teyrngarwch

Clwb Cwlwm yw ein cynllun teyrngarwch, sy'n cynnig un pwynt am bob £1 sy'n cael ei wario gan aelodau, yn ein siop yng Nghroesoswallt a'n siop ar-lein, dyma ad-daliad 5% ar wariant.  Mae croeso i archebion gan grwpiau sy'n gysylltiedig ag addysg ymuno â Chlwb Cwlwm, a dyma ffordd wych i gynyddu gwerth eich archebion.

Rhestrau dymuniadau

Darparwch restr o adnoddau a llyfrau sydd eu hangen ar eich grŵp neu sefyliad, ac â'ch Rhestr ddymuniadau personol, gall rhieni, neiniau a theidiau a phawb arall eu harchebu trwy ein gwefan, yn ein siop yng Nghroesoswallt, a thros y ffôn.  Gyda'n profiad ac arbenigedd addysgu gallwn helpu a chynghori wrth ddatblygu eich Rhestr ddymuniadau.

Rhoddion

Rydym yn gwerthfawrogi bod llawer o grwpiau a sefydliadau yn gweithio â chyllidebau cyfyngedig. I gefnogi'r cyllidebau hyn rydym yn gweithio â grwpiau a sefydliadau fel chi er mwyn i bobl wneud rhoddion tuag at eich Rhestr ddymuniadau. Rydym yn cynnig rhoddion in fesul £5 neu £10 fel arfer (gellir newid hyn os bydd symiau eraill yn fwy addas i chi). Fel bonws ychwanegol, bydd Siop Cwlwm yn rhoi 10% o gyfanswm y swm a roddwyd.