Neidio i gynnwys

Anfonwn archebion ar ddyddiau Llun, Mercher a Gwener. Gweler ein tudalen 'Postio' i gael mwy o fanylion a dyddiadau archebu olaf y Nadolig.

Anfonwn archebion d. Llun, Mercher, Gwener. Gweler ein tudalen 'Postio' i weld dyddiadau archebu olaf y Nadolig.

Amdanom ni

Cafodd Siop Cwlwm ei sefydlu ym mis Gorffennaf 2010 gan y tîm mam a merch Linda a Lowri Roberts.

Rydym yn gwerthu amrywiaeth eang o lyfrau Cymraeg, cerddoriaeth, cardiau cyfarch, anrhegion a newyddau cartref, a dillad.  Cyn 2022, roedd ein siop ym marchnad dan do Croesoswallt Oswestry indoor market (Neuadd Powis) sydd wedi ennill gwobrau.  Gwnaethom symud i 33 Bailey Street ym mis Hydref 2022.

Mae'n debyg mai Siop Cwlwm yw'r unig siop Gymraeg y tu allan i Gymru.

Ers mis Ionawr 2017, rydym wedi bod yn falch o weithio mewn partneriaeth â Saith Seren yn Wrecsam i ddarparu amrywiaeth o gardiau a chylchgronau Cymraeg a gwasanaeth 'clicio a chasglu' am ddim.

 

Mae'r eitemau rydym yn eu gwerthu wedi cael eu dewis yn arbennig gennym ni, ac rydym bob amser yn edrych am eitemau, yn enwedig y rheiny y mae dylunwyr, cynhyrchwyr a chrefftwyr lleol wedi'u cynhyrchu, felly mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau!

Mae Siop Cwlwm yn gwmni hollol ddwyieithog – mae croeso i chi gysylltu â ni yn Gymraeg neu Saesneg.

Rydym yn falch i gyflenwi llyfrau ac adnoddau addysgol Cymraeg a dwyieithog i lawer o ysgolion a chylchoedd meithrin.  Gallwn gynnig disgownt i bob ysgol a grŵp tebyg sy'n archebu â Siop Cwlwm, yn ogystal â dosbarthu am ddim.

Hefyd, mae gennym brofiad o roi cyflwyniadau am Siop Cwlwm a datblygiad y busnes i grwpiau fel  Merched y Wawr a Sefydliad y Merched.  Gallwn ddod â detholiad o nwyddau efo ni fel y gallwch bori a phrynu!

Ym mis Ionawr 2023, bu farw Linda. Roedd hi wrth ei bod yn gwasanaethu cwsmeriaid â gwên - yn enwedig teuluoedd â babanod ac oedolion yn dysgu Cymraeg - ac yn ychwanegu stoc at ein gwefan yn ofalus.

Mae Lowri hefyd yn gyfieithydd Cymraeg llawrydd proffesiynol, yn rhedeg busnes Trosi Tanat Translation.  Aelodau eraill tîm Siop Cwlwm yw Ceri a Siân, ac maent yn edrych ymlaen at 2024 brysur a chyffrous!

Rydym yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau gan gynnwys 'Siop Siarad' misol, sy'n gyfle i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg ymarfer siarad Cymraeg a dysgu mwy am yr iaith.

Dyma'n horiau agor yn 33 Bailey Street, Croesoswallt:

  • Dydd Llun 9.30am - 5.00pm
  • Dydd Mawrth 10.00am - 2.00pm
  • Dydd Mercher 9.30am - 5.00pm
  • Dydd Gwener 9.30am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn 9.30am - 5.00pm

Ac mae'n siop ar-lein ar agor bob amser!