Neidio i gynnwys

Anfonwn archebion ar ddyddiau Llun, Mercher a Gwener. Gweler ein tudalen 'Postio' i gael mwy o fanylion a dyddiadau archebu olaf y Nadolig.

Anfonwn archebion d. Llun, Mercher, Gwener. Gweler ein tudalen 'Postio' i weld dyddiadau archebu olaf y Nadolig.

Swyddi

This is an advert for a Shop Assistant vacancy at Siop Cwlwm, where the ability to communicate fluently in Welsh is essential.

Mae Siop Cwlwm yn chwilio am unigolyn/unigolion trefnus a brwdfrydig i ymuno â’n tîm cyfeillgar yng Nghroesoswallt, sef:

Cynorthwy-ydd Siop

Dyletswyddau:

  • Gwasanaethu cwsmeriaid ac argymell llyfrau a nwyddau.
  • Gwaith gweinyddol siop o ddydd i ddydd, gan gynnwys:
  • Derbyn stoc newydd,
  • Cofnodi archebion newydd,
  • Gweithio wrth y til a delio ag arian,
  • Trefnu silffoedd ac arddangosfeydd,
  • Ateb ymholiadau cwsmeriaid wyneb yn wyneb, dros y ffôn ac ebost,
  • Pigo a phacio archebion cwsmeriaid ar-lein,
  • Prosesu archebion i’w postio.
  • Cadw i fyny â’r llyfrau a thueddiadau diweddaraf.
  • Cyfrannu at ymgyrchoedd marchnata gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol.
  • Helpu i gynnal a hyrwyddo digwyddiadau.

Sgiliau hanfodol:

  • Mae’r gallu i gyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
  • Personoliaeth frwdfrydig, dibynadwy, cyfeillgar, positif, cymwynasgar a chymdeithasol.
  • Sgiliau cryf o ran trefnu a gweinyddu, ac yn rhoi llawer o sylw i fanylion.
  • Sgiliau cryf o ran cyfathrebu a gwasanaethu cwsmeriaid.
  • Yn hyddysg â chyfrifiadura ac yn hyderus wrth ddefnyddio technoleg.
  • Yn gallu gweithio fel tîm ac ar eich pen eich hun.

Sgiliau dymunol:

  • Profiad o weithio mewn siop a/neu ddelio â chwsmeriaid.
  • Profiad o ddefnyddio systemau TG arbenigol.
  • Yn mwynhau darllen, yn enwedig llyfrau Cymraeg.

Oriau: Rydym ar agor 9.30am – 5pm, dydd Llun, dydd Mercher, dydd Gwener a dydd Sadwrn.  Fodd bynnag, ceir hyblygrwydd o ran oriau gwaith a gellir trafod hyn a chytuno arno.

Cyflog: £10.50 yr awr.  Mae cynllun pensiwn ar gael.

Lleoliad: 33 Bailey Street, Croesoswallt, SY11 1PX.  Gyda phosibilrwydd o weithio mewn lleoliadau eraill yn achlysurol, trwy gytundeb.

I wneud cais: Anfonwch lythyr yn egluro pam eich bod yn ddelfrydol i’r swydd hon, at post@siopcwlwm.co.uk, gan atodi eich CV.  Darparwch fanylion dau ganolwr i ddarparu geirda.  Byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn i ni gysylltu â nhw.

Dyddiad cau: 12fed Mai 2023

This is an advert for a Shop Assistant vacancy at Siop Cwlwm, where the ability to communicate fluently in Welsh is essential.