Mudo - Cris Dafis
Description
O Lanelli y daw Cris Dafis yn wreiddiol, ond mae wedi byw yng Nghaerdydd ers degawdau bellach, lle mae’n gweithio fel tiwtor iaith gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, cyfieithydd gyda Chyngor Caerdydd a cholofnydd i Golwg.
Yn 2005, daeth tro mawr ar ei fyd pan foddodd ei gymar, Alex, wrth geisio’i achub yn y môr tra ar wyliau ar ynys Bali.
Ymateb i’r brofedigaeth honno y mae cerddi'r pamffled hwn, dros ddegawd yn ddiweddarach. Maen nhw’n dangos nad yw colled o’r fath fyth yn diflannu, a bod ambell golled yn golled am byth.
Yng nghanol tristwch, fodd bynnag, daw rhyddhad o dro i dro gan gynnig allwedd i ‘fyd sy’n fwy / na thristwch’.
Dyma’r tro cyntaf i Cris Dafis fentro cyhoeddi barddoniaeth ers diwedd y 1980au pan ymddangosodd ei gyfrol 'Ac Ystrydebau Eraill' yng nghyfres Beirdd Answyddogol y Lolfa.
Details
Dosbarthu
Anfonwn bob archeb a dderbyniwyd 3 gwaith yr wythnos, ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener.
Sicrhewch eich bod yn archebu erbyn 12 canol dydd. Fel arall, efallai na fydd eich archeb yn cael ei hanfon tan y diwrnod gwaith nesaf (dydd Llun, dydd Mercher neu ddydd Gwener). Cysylltwch â ni os oes brys arnoch, byddwn yn gwneud ein gorau i'ch helpu.
Cynigiwn 'glicio a chasglu' am ddim ar gyfer cwsmeriaid yng Nghroesoswallt ar ddydd Llun, Mercher, Gwener a Sadwrn
Cynigiwn ddosbarthu economi am ddim ar gyfer archebion yn y DU dros £50
- Dosbarthu Economi - o £1.99, nod dosbarthu mewn 3-5 diwrnod gwaith, fel arfer Royal Mail 48.
- Dosbarthu Safonol - o £2.99, nod dosbarthu mewn 1-2 diwrnod gwaith, fel arfer Royal Mail 24.
- Dosbarthu Cyflym - o £7.99, nod dosbarth ar y diwrnod gwaith nesaf, fel arfer DPD Local / Parcelforce.
I gael manylion pellach, sgroliwch i lawr i'n tudalen 'Dosbarthu'. Cysylltwch â ni os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.