25ain Ionawr 2025
Llyfrau Cymraeg i blant sy'n delio â galar, colled a phrofedigaeth
Gallwn ddefnyddio llyfrau i gyflwyno marwolaeth a galar i blant. Trwy ddewis llyfrau sy'n addas ar gyfer amgylchiadau unigol, gallant hefyd gael eu defnyddio i helpu plant galarus i deimlo'n llai unig a gwneud synnwyr o emosiynau dryslyd a thrist.
Mae'r ddelwedd uchod yn dangos ein cyd-sylfaenydd, Linda (sef Nain Draenog) â'i hwyrion annwyl Lluan ac Ynyr. Bu Linda farw ym mis Ionawr 2023 ac mae rhai o'r llyfrau isod, a rhai eraill, wedi rhoi cysur a chymorth i ni fel teulu:
Teimladau Mawr Bach: Pan dwi’n Drist
Addasiad Cymraeg gan Elin Meek o 'When I am Sad' sy'n helpu plant ifanc i ddechrau rheoli eu hemosiynau. Gallant godi'r fflapiau, llithro'r tabiau a throi'r olwyn i archwilio pam eu bod yn teimlo'n drist a sut i symud ymlaen o'r emosiynau hyn.
- Clawr caled
- Addas ar gyfer plant iau na 5 oed
Mae'r llyfr hwn yn cynnig cymorth i blant sy'n paratoi ar gyfer marwolaeth brawd neu chwaer, ac ymdopi ar ôl hyn, gan gynnwys y rheiny â chyflwr anghyffredin neu heb ddiagnosis. Trwy ganolbwyntio ar sut mae salwch a marwolaeth Dreigyn yn effeithio ar ei brawd a chwaer, mae'r llyfr yn normaleiddio emosiynau dryslyd sy'n gallu teimlo'n llethol i blant sy'n wynebu sefyllfa debyg. Mae'n cynnwys adran wybodaeth, wedi'i hysgrifennu gan nyrs gofal lliniarol paediatrig, sy'n cynnwys cwestiynau gall y plant eu trafod ag oedolion.
- Colli brawd neu chwaer
- Addas ar gyfer plant 9-11 oed neu gellir ei ddarllen i blant iau.
Os yw Mam wedi mynd, sut fedrwch chi ymdopi? Mae'r golled fel cwmwl du yn eich dilyn i bobman, neu fel nofio at lan nad yw byth yn cyrraedd. Ond mae atgofion fel siwmper y medrwch ei gwisgo a chwtsho ynddi, ac mae siwmper Mam yn ffordd o'i chadw hi'n agos atoch. Dyma stori syml, gynnes-galon i godi ysbryd unrhyw un sy'n ceisio ymdopi â cholled.
- Colli rhiant (mam)
- Addas i blant iau na 7 oed
Mae Taid yn rhoi pensil lliwiau'r enfys i mi ac yn dweud: Ysgrifenna a thynna luniau, ysgrifenna a thynna luniau dy freuddwydion di i gyd. Llyfr lluniau annwyl am y cariad rhwng merch fach a'i thaid, ac am gadw'r cariad hwnnw'n fyw trwy atgofion.
"Mae’r stori’n llwyddo i ganfod rhyw gydbwysedd rhwng hiraethu am golled ac ymhyfrydu mewn bywyd a dathlu atgofion. Llwydda hefyd i gyflwyno colled a’r modd yr ydym yn hiraethu am anwyliaid ochr yn ochr â’r cysur a geir oddi wrth atgofion".
- Colli taid / tad-cu
- Addas i blant iau na 7 oed
Pwy sy'n drist? Gall unrhyw un fod yn drist. Mae'n dod o unman ac yn dod o hyd i ti. Mae pethau trist ym mywydau pawb – falle fod gennyt ti rai y funud hon wrth i ti ddarllen hwn. Meddwl am ei fab Eddie a fu farw sy'n gwneud Michael Rosen yn fwyaf trist. Yn y llyfr hwn mae'n sgwennu am ei dristwch, sut mae'n effeithio arno, a rhai o'r pethau y mae'n eu gwneud er mwyn ymdopi â'r tristwch.
- Addas i blant iau na 7 oed
Does ond un fel fi: Llythyr caru oddi wrth Mam
Llythyr caru i ferched Lisa ei hun yw'r gerdd dyner hon, wedi'i darlunio gan Catalina Echeverri, ond mae hefyd yn fynegiant o gryfder di-syfl cariad rhiant at blentyn, ac yn crynhoi neges oesol i bob teulu sy'n wynebu'r heriau o golli rhywun annwyl.
Cafodd Lisa ddiagnosis o ganser angheuol yn y coluddyn a'r afu yn Rhagfyr 2017. A hithau'n benderfynol o adael gwaddol o gariad i'w merched, ac wedi'i hysbrydoli gan gariad gydol oes at sgwennu, cydweithiodd Lisa â'r awdur llyfrau plant arobryn Michelle Robinson i greu Does Ond Un Fel Fi.
'Llyfr unigryw ac arbennig.' Konrad Jacobs, Seicolegydd Plant Ymgynghorol, Ysbytai Prifysgol Rhydychen.
- Colli rhiant (mam)
- Addas i blant iau na 7 oed
Does ond un fel fi: Llythyr caru oddi wrth Dad
Llythyr caru i ferched Lisa ei hun yw'r gerdd dyner hon, wedi'i darlunio gan Tim Budgen, ond mae hefyd yn fynegiant o gryfder di-syfl cariad rhiant at blentyn, ac yn crynhoi neges oesol i bob teulu sy'n wynebu'r heriau o golli rhywun annwyl.
'Llyfr unigryw ac arbennig.' Konrad Jacobs, Seicolegydd Plant Ymgynghorol, Ysbytai Prifysgol Rhydychen.
- Colli rhiant (tad)
- Addas i blant iau na 7 oed
Llyfr lluniau teimladwy yw Y Pwll am fachgen ifanc, a'i deulu, wrth iddo ddygymod â cholli ei dad. Mae'r llyfr yn lliwgar, yn emosiynol, yn rymus ac yn llawn lluniau natur; mae'n mynd i'r afael â themâu anodd marwolaeth a cholled, ond hefyd â bywyd, cariad a phwysigrwydd byd natur.
- Colli rhiant (tad)
- Addas i blant iau na 7 oed
Mae Jac a'i dedi-bêr yn ffrindiau gorau; maen nhw'n gwneud popeth ac yn mynd i bobman gyda'i gilydd. Ond un diwrnod mae Tedi yn diflannu... Dyma stori hardd am gariad, colled a symud ymlaen wedi colled, a ysbrydolwyd gan hanes gwir am fachgen awtistig, saith oed o'r enw Jack.
- Addas i blant iau na 7 oed
Dyma stori arbennig am y berthynas glos rhwng Tad-cu a Wil wrth iddynt droedio'r mynyddoedd law yn llaw yng nghanol oerni'r gaeaf. Het wlân Tad-cu yw canolbwynt y stori, a'r het honno'n symbol o'r cariad sydd rhyngddynt. Stori am golled yw hon yn ei hanfod, ond caiff hynny ei gyflwyno mewn modd cynnil a theimladwy.
- Colli taid/tad-cu
- Addas i blant iau na 7 oed
Rydym yn gobeithio bod y rhestr hon o lyfrau Cymraeg wedi'ch helpu, ond os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu fwy o awgrymiadau, cysylltwch â ni.
Mwy o wybodaeth:
- Child Bereavement UK – ffoniwch 0800 028 8840 dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm, neu ebost helpline@childbereavementuk.org
- Cruse Bereavement Care – ffoniwch 0808 808 1677 dydd Llun a dydd Gwener, 9.30am i 5pm; dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau 9.30am i 8pm; dydd Sadwrn a dydd Sul 10am i 2pm
- Grief Encounter – ffoniwch 0808 802 0111 dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 9pm, neu ebost contact@griefencounter.org.uk
- Hope Again – ffoniwch 0808 808 1677 dydd Llun i ddydd Gwener, 9.30am i 5pm, neu ebost hopeagain@cruse.org.uk
- Winston's Wish – ffoniwch 0808 802 0021 dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 8pm, neu ebost ask@winstonswish.org
- Gallwch hefyd ddod o hyd i fwy o wybodaeth am blant a phrofedigaeth gan y Rhwydwaith Profedigaeth Plentyndod