15th June 2025
Easy to order quick service thanks
Nic card for husband's birthday. Prompt delivery
Yn swydd i yw’r broblem. ‘Sa i’n gwbod beth fi’n moyn, ond fi ddim yn moyn y jobyn diflas sy ‘da fi o ddanto athrawon.”
Dyma nofel wych i bob athro a chyn athro neu athrawes, a phobl ‘an-addysgiedig hefyd’ ei darllen dros Wyliau’r Pasg, a chael cyfle i weld yr arolygwr o Gorestyn yn dioddef ‘anesmwythdra dybryd’. Mae’n llawn hiwmor sy’n adrodd llawer o wirioneddau anghysurus am y byd addysg ac yn cwestiynu llawer am dueddiadau’r oes…
Arolygwr Ysgol ydy Gwilym Puw, sy’n gwneud penderfyniad allweddol yn ystod ei ‘wythnos ryfedd’ ac fe gawn ei ddilyn wrth iddo fynd ati i drawsnewid ei fywyd. Yn ystod ei benwythnos cawn fynd efo Gwilym i siop Bodaphone gan ei fod “moyn ffôn gwaeth!” Yna awn i Dreggs am goffi ble mae’n teimlo’i dymer yn codi wrth iddo gael ei fychanu am nad yw’n deall y fwydlen! cyn iddo fentro wedyn i fwyty brys Kentucky Dried Ffowlyn am y tro cynta’.
Fel pob athro mae’n dod ar draws ei gyn-ddisgyblion mewn ystod o sefyllfaoedd heriol, annisgwyl a llawn embaras!
Bywyd symlach ac arafach mae Gwilym yn ei ddeisyfu, fel sawl un arall mae’n debyg!
Mae’r nofel yn un doniol a hwyliog, ac yn rhwydd iawn i’w darllen. Cyfle i rannu heriau arolygwr addysg profiadol sy’n dechrau gweld y byd drwy lens wahanol wrth iddo brofi rhyw fath o ‘fid laiff creisis’.
Chwerthin llond ‘y mol ar Gwilym a’i gyd-arolygwyr, ei atgofion o noson wyllt ar ei foped gyda’i gariad a chyngerdd Paul Weller, cyfrinachau Ema ei wraig a llawer mwy!!
Mae’n rhaid ei bod yn un dda, gan mod i wedi ei darllen mewn llai nag wythnos!! Edrych ‘mlaen at nofel arall gan Neil Rosser gan obeithio na fydd yn “fwy caled nag algebra”!
Casglad hyfryd o caneuon cerddoriaith meddal yn addas iawn i ymlacio ar diwedd nos. Atgofion yn fy hoff gan.
A lovely collection of soft soothing music. Ideal for relaxing at the end of the evening. Atgofion is my favourite track.
What a wonderful album.